Gweithredu mewn Addysg Fenter

IEEC 2010

Ymunodd Enterprise Educators UK a'r Cyngor Cenedlaethol er Entrepreneuriaeth Graddedigion (NCGE) â'i gilydd yn 2006 i ddarparu fforwm lle gallai addysgwyr menter rannu eu profiadau a chael eraill i ymgysylltu ag addysg fenter yn ogystal â chyfoethogi profiad addysgwyr a myfyrwyr - ar ffurf y Gynhadledd Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol (IEEC) .

Bellach yn ei phumed flwyddyn, IEEC21010 yw'r gynhadledd genedlaethol a rhyngwladol bwysicaf ym maes menter ac addysg entrepreneuriaeth.   Drwy rannu profiadau mewn gweithdai ymarferol, trafodaeth agored ynghylch beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio, sesiynau cyffredinol a fforymau sy'n aml yn canolbwyntio ar y profiad ymarferol o addysg fenter, mae'n torri tir newydd yn y byd cynadledda traddodiadol drwy droi 'meddwl' yn 'weithredu'.    Mae'n dod ag addysgwyr menter a myfyrwyr parod i fentro at ei gilydd sy’n golygu y gall entrepreneuriaid herio’r sector Prifysgolion mewn trafodaeth agored, ac y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddod i wybod am ddatblygiadau ym maes addysg fenter - a'r heriau ar gyfer y dyfodol.

Eleni, mae’n bleser gan Enterprise Educators UK a’r NGCE gyhoeddi y cynhelir IEEC2010 ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth a nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eiriolwr brwd dros addysg fenter ac entrepreneuriaeth ac, o ganlyniad, gwelwyd datblygiadau blaenllaw mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn y cyswllt hwn. Dyma'r amser i dynnu sylw at y datblygiadau hyn a sicrhau eu bod yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol. Mae’n bleser ac yn destun balchder i IEEC2010 gael gweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo diwylliant o fenter ac entrepreneuriaeth ym myd addysg yng Nghymru.

 

Meddai Simon Brown, Cadeirydd Enterprise Educators UK:

Pleser o'r mwyaf i  mi yw cael gweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddod â'r IEEC2010 i Gaerdydd. Ni fu erioed amser gwell i genhadu neges addysg fenter ac entrepreneuriaeth ymysg ymarferwyr.

Wrth i’n heconomi faglu ei ffordd allan o ddirwasgiad ac wrth i'n hen ffyrdd o feddwl golli eu heffeithiolrwydd − dyma'r union adeg i ehangu rôl a chyrhaeddiad ein hacademyddion a'n staff prifysgolion blaengar.    Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y digwyddiad sydd gennym ar y gweill. Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen ac mae'r IEEC2010 yn rhoi'r egwyddor hon ar waith. 

Mae Andy Penaluna, Is-gadeirydd Enterprise Educators UK, a darlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn helpu i drefnu'r digwyddiad

Rydym wedi bod yn ymwybodol ers cryn amser fod Cymru'n chwarae rôl allweddol mewn datblygu meddyliau blaengar ar gyfer y dyfodol a bod ganddi arbenigedd aruthrol yn y maes. Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos i weddill y byd yr hyn rydym yn ei wneud, ac y gallwn ei wneud, i gefnogi a datblygu’r agenda bwysig hon.

Mae’n galondid i Alison Price, Cyfarwyddwr Datblygu Addysg, y Cyngor Cenedlaethol er Entrepreneuriaeth Graddedigion, fod IEEC yn mynd o nerth i nerth ac yn ehangu ei chylch gorchwyl:

Rydym wrth ein bodd bod IEEC2010 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru fel ein prif noddwr ac yn bartner allweddol yn y gynhadledd, rydym yn llunio rhaglen ddeinamig ar gyfer y gynhadledd, a fydd yn parhau i roi gwybodaeth a chefnogaeth werthfawr i addysgwyr entrepreneuriaeth sy’n gweithio ym maes Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Gyda'n partneriaid yn y gynhadledd, sef Enterprise Educators UK, rydym wedi ennill enw da ar lefel ryngwladol am arddangos ymarfer entrepreneuraidd ardderchog drwy ein rhaglen o weithdai dan arweiniad ymarferwyr ac edrychwn ymlaen at wahodd addysgwyr cenedlaethol a rhyngwladol i ymuno â ni yng Nghaerdydd i rannu eu profiad a'u harferion gorau. 

 

Partners



Sponsors




National Enterprise Educators Awards

2011 winners have been announced!

More Info

Follow Us on Twitter